God Save the Queen – but in Welsh

“Duw Gadwo’r Frenhines” – gan Gwylim Mai
(Ffynhonnell: Hanesiaith Gwladol)

Duw, cadw ar bob awr,
Frenhines Prydain Fawr,
Amddifyn hon:
Amgaera Di ei sedd,
Rhag creulawn rwyg y cledd,
O! cadw hyd y bedd
Victoria Ion

Duw, gwasgar ar bob pryd
Elynion hon i gyd,
Tor hwynt i lawr;
Dyrysa’u bradau cudd,
Diddyma’u castîau prudd,
Ein hyder ynot sydd,
O! Arglwydd mawr.

Bendithion pena r nen
Dyhidla ar ei phen;
Hir oes i hon:
Diffyned deddfau’n tir,
Ninnau o galon bur
Ddymunwn einioes hir
Victoria Ion

Caed Albert ddyddiau hir
I noddi’n Banon bu,r
A hedd I’w fron :
Ei ymgais ef ? hyd
Fo llwyr ddiwygio’r byd,
A byw yn serch a phryd,
Victoria Ion.

Ac i’n T’wysoges fach,
O! bydded hiroes iach,
Heb unrhyw loes;
Boed Duw yn Dduw i’r Fam,
Yn nawdd i’r Tad rhag cam,
A chadw’r Ferch rhag nam,
Hyd ddiwedd oes.

Enhanced by Zemanta

Similar Posts